|
Comisiwn y Cynulliad |
|
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Llun, 5 Tachwedd 2012 |
|
|||
|
Amser: |
15:30 - 17:30 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: AC(4)2012(9) |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd (Swyddog) Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog) Dave Tosh, Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (Swyddog)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol
|
|||
|
|
|
||||
1. Cyflwyniad y Cadeirydd
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Nid oedd buddiannau i'w datgan.
1(iii) Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunodd y Comisiynwyr ar gofnodion 27 Medi a 22 Hydref.
Cytunodd y Comisiynwyr i ddiwygio cofnodion 12 Gorffennaf i gofnodi penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod:
Symudodd y Comisiwn i sesiwn breifat a chytuno ar gynnig gan y Prif Weithredwr ynghylch mater staffio cyfrinachol yn unol â'r Ddirprwyaeth.
2. Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2013-14
Mae cyllideb 2013-14 y Comisiwn yn nodi'r adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwaith Gwasanaethau'r Cynulliad sy'n flaenoriaeth yn ogystal â'r gyllideb sydd ei hangen i ariannu Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ar gyfer Aelodau'r Cynulliad.
Ers y cyfarfod diwethaf, mae cyllideb ddrafft 2013-14 y Comisiwn wedi'i osod. Ymddangosodd Angela Burns AC, Claire Clancy a Steve O'Donoghue gerbron y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref ac roedd adroddiad y Pwyllgor yn argymell:
· Cyhoeddi dangosyddion perfformiad blynyddol;
· Dim cynnydd i gyllidebau'r comisiwn ar ddiwedd y rhaglen fuddsoddi tair blynedd bresennol;
· Mwy o fanylion am arbedion a buddsoddiadau.
Cytunodd y Comisiynwyr ag argymhellion y Pwyllgor a chytuno i osod y Gyllideb ar 7 Tachwedd. Mae'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar y gyllideb wedi'i threfnu ar gyfer 14 Tachwedd.
Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi.
Cam i'w gymryd: Swyddogion i osod dogfen cyllideb 2013-14 gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd.
3. Strategaeth Gwasanaethau TGCh yn y Dyfodol – Cyflwyniad gan Atos
Bydd Cytundeb Merlin, ar gyfer darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad, yn dod i ben yn 2014. Mae'n ofynnol bod y Comisiwn yn hysbysu Llywodraeth Cymru ac Atos o'i benderfyniad ynghylch darparu gwasanaethau TGCh i'r Cynulliad yn y dyfodol erbyn mis Ebrill 2013. Ym mis Tachwedd 2011, cytunodd y Comisiwn i asesu dau opsiwn: ymestyn cytundeb Merlin; neu symud at ddarpariaeth fewnol gymysg.
Roedd cynrychiolwyr o Atos yn y cyfarfod i roi gwybodaeth i'r Comisiynwyr ar ddarpariaeth TGCh arfaethedig yn y dyfodol.
Cytunwyd na fyddai'r papur yn cael ei gyhoeddi oherwydd natur fasnachol ei gynnwys.
Gwnaeth y Comisiynwyr gais am ragor o gyfarfodydd i allu trafod darpariaeth gwasanaethau TGCh yn y dyfodol yn fanylach. Cynhelir y cyfarfodydd ar 12 Tachwedd a 3 Rhagfyr.
4. Unrhyw Fusnes Arall
Nid oedd unrhyw fater arall.
Yr Ysgrifenyddiaeth
Tachwedd 2012